Hong Kong, the first physical meeting by Gwyn Emberton (English & Welsh) / by Israel Aloni

I am writing this at 5.09am British Summer Time on Sunday 26th August. I have been back on the Isle of Britain from Hong Kong Island for about 36 hours and the jet lag got me out of bed at 4.30am – 11.30am in Hong Kong. International collaboration

I miss it but I am glad to be home.

I miss the team after our first meeting. I miss the space, I miss the Ding Ding that we took to the studio, I miss the bento lunch boxes we ate, I miss my new colleagues from across the globe, I miss hearing the artists finding out about each other and figuring out how they are going to work together, I miss seeing this happen, I miss being surprised when I hear the new ideas, inspirations, developments that are being talked about.

The first meeting is always the hardest.

There are so many questions.

  • Who are these other people in the room?

  • What do they do?

  • What kind of artist are they?

  • Where do they come from?

  • Why are they here?

  • How can we possibly make a work together?

This is added to the fact that the subject matter is so broad - Transformation is a huge topic.

How will six people who have very different approaches to making dances and theatre choose where to start?

It is like putting six pins on the map of the universe…

Some will dive into a process, some will consider, some will consider then dive then consider some more, some will dive then consider if that was the right place then back up and start again….

The first residency is done. Wow, that was fast. We are a fifth of the way there already. The work is moving forward. A new process has started, and it is exciting.

Hong Kong

Y cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf

Rwy'n ysgrifennu hwn am 5.09am Amser Haf Prydain, ddydd Sul 26 Awst. Rydw i wedi bod yn ôl ar Ynys Prydain o Hong Kong ers tua 36 awr, ac oherwydd y jetludded dihunais am 4.30am – 11.30am yn Hong Kong. Cydweithio rhyngwladol...

Rwy'n gweld eisiau'r profiad, ond rwy'n falch i fod gartref.

Rwy'n gweld eisiau'r tîm ar ôl ein cyfarfod cyntaf. Rwy'n gweld eisiau'r stiwdio, rwy'n gweld eisiau'r Ding Ding oedd yn ein cludo ni yno, rwy'n gweld eisiau bwyta o'r bocsys bwyd bento, rwy'n gweld eisiau fy nghydweithwyr newydd ar ochr draw'r byd, rwy'n gweld eisiau clywed yr artistiaid yn dysgu am ei gilydd ac yn penderfynu ar sut i gydweithio, rwy'n gweld eisiau gweld hyn yn digwydd, rwy'n gweld eisiau cael fy syfrdanu wrth glywed y syniadau, ysbrydoliaethau a datblygiadau newydd sy'n cael eu trafod.

Y cyfarfod cyntaf yw'r anoddaf, bob tro.

Mae cymaint o gwestiynau.

·     Pwy yw'r bobl eraill yma yn yr ystafell?

·     Beth maen nhw'n ei wneud?

·     Pa fath o artistiaid ydyn nhw?

·     O ble maen nhw'n dod?

·     Pam ydyn nhw yma?

·     Ym mha ffyrdd posibl allwn ni gydweithio?

Mae hyn yn ogystal â'r ffaith bod y pwnc dan sylw mor eang – mae Trawsnewid yn bwnc enfawr.

Sut bydd chwe pherson sydd â dulliau gwahanol iawn o greu dawnsiau a theatr yn dewis man cychwyn?

Mae fel rhoi chwe phin ar fap o'r bydysawd...

Bydd rhai'n bwrw ati i ddilyn proses, bydd eraill yn pendroni, bydd rhai'n pendroni ac yna'n bwrw ati ac yna'n pendroni mwy, bydd rhai'n bwrw ati ac yna'n ystyried ai dyna oedd y lle cywir i ddechrau ac yna'n camu yn ôl i ddechrau eto...

Mae'r cyfnod preswyl cyntaf ar ben. Waw, roedd hynny'n gyflym. Rydyn ni wedi gorffen un rhan o bump o'r broses yn barod. Mae'r gwaith yn symud ymlaen. Mae proses newydd wedi dechrau, ac mae'n gyffrous.